Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 52(5)(b) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, i'w cymeradwyo drwy  benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy. )

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwystra i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

 (Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau a wnaed o dan y pwerau sydd yn adrannau 7(6)(a) a 47(1) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”).

Mae adran 6 o'r Mesur yn galluogi ymarferwyr cyffredinol i atgyfeirio cleifion sydd wedi eu cofrestru gyda hwy i bartner iechyd meddwl lleol ar gyfer yr ardal lle y mae'r claf yn preswylio fel arfer ar gyfer asesiad iechyd meddwl sylfaenol. 

Mae adran 7(6)(a) o'r Mesur yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru bennu categorïau pellach o unigolion y caniateir i ddarparwyr gofal sylfaenol eu hatgyfeirio i gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol.

Gan ddibynnu ar y pŵer sydd yn adran 7(6)(a) o'r Mesur, mae rheoliad 3(1) yn darparu y caniateir i ddarparydd gofal sylfaenol atgyfeirio unrhyw berson sydd â'r hawl i gael gwasanaethau meddygol sylfaenol a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol os yw'n ymddangos bod angen asesiad o'r fath ar y person hwnnw. Yr unig eithriad a geir yw ar gyfer y categorïau o unigolyn sy'n dod o fewn y disgrifiadau a nodwyd yn adran 8(1) o'r Mesur sy'n cynnwys unigolion sy'n agored i gael eu cadw’n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ac unigolion sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. 

Mae rheoliad 3(2) yn darparu bod rhaid i'r darparydd gofal sylfaenol, os yw'n gwneud atgyfeiriad ar gyfer asesiad iechyd meddwl sylfaenol, wneud yr atgyfeiriad i'r Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Awdurdod Lleol ar gyfer yr ardal awdurdod lleol lle y mae'r darparydd gofal sylfaenol yn cynnal y rhan fwyaf o'i fusnes neu ei weithgareddau.  

Mae rheoliad 3(1) wedi ei ddrafftio'n eang er mwyn galluogi darparydd gofal sylfaenol i wneud atgyfeiriad mewn cysylltiad ag unrhyw berson yr ymddengys fod angen asesiad iechyd meddwl sylfaenol arno. Byddai'r personau y gallai'r darparydd gofal sylfaenol eu hatgyfeirio yn unol â rheoliad 3(1) yn cynnwys personau o grwpiau agored i niwed megis ceiswyr lloches, personau digartref; sipsiwn a theithwyr; carcharorion; gweithwyr mudol a myfyrwyr. Mae rheoliad 3(1) hefyd yn galluogi darparydd gofal sylfaenol i atgyfeirio personau nad ydynt wedi eu cofrestru gyda’i bractis neu i atgyfeirio personau sydd wedi eu cofrestru gyda darparydd gwasanaethau meddygol sylfaenol arall (neu wasanaethau cyfatebol) p'un ai yng Nghymru neu yn rhywle arall. 

Mae adran 47(1)(b) o'r Mesur yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth am gymhwystra unigolion i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol o dan adran 9 o'r Mesur.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth am y gofynion cymhwystra y mae'n rhaid i berson eu bodloni cyn y caniateir i berson gynnal asesiad iechyd meddwl sylfaenol. Nodir y gofynion proffesiynol y mae'n rhaid i berson eu bodloni yn yr Atodlen.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau tebygol o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Grwpiau Iechyd Meddwl ac Agored i Niwed, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ.           

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 52(5)(b) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, i'w cymeradwyo drwy  benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy.  )

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwystra i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012

Gwnaed                                                2012

Yn dod i rym                            1 Hydref 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 7(6)(a), 47(1)(a) a (2), a 52(2) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010([1]).

Cafodd drafft o'r offeryn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 52(5)(b) o'r Mesur, ac mae wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rhan 1 - Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwystra i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 1 Hydref 2012.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

mae i'r ymadrodd “asesiad iechyd meddwl sylfaenol” (“primary mental health assessment”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 51(1) o'r Mesur;

ystyr “cynllun” (“scheme”) yw cynllun y mae’n rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno arno yn unol ag adran 2 o’r Mesur;

mae i'r ymadrodd “darparydd gofal sylfaenol” (“primary care provider”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 51(1) o'r Mesur;

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([2]);

mae i'r ymadrodd “gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol” (“local primary mental health support services”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 5 o'r Mesur;

ystyr “gwasanaethau meddygol sylfaenol” (“primary medical services”) yw—

(a) gwasanaethau meddygol a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf 2006 p’un ai gan—

(i) contractiwr y gwnaeth Bwrdd Iechyd Lleol gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol ag ef o dan adran 42 o'r Ddeddf honno;

(ii) person y gwnaeth Bwrdd Iechyd Lleol drefniadau ag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno;

(iii) ymarferydd meddygol cofrestredig a gyflogir at ddibenion adran 41(2)(a) o'r Ddeddf honno gan Fwrdd Iechyd Lleol; neu

(iv) ymarferydd meddygol cofrestredig y gwnaeth Bwrdd Iechyd Lleol drefniadau ag ef o dan adran 41(2)(b) o’r Ddeddf honno; neu

(b) gwasanaethau meddygol a ddarperir gan—

(i) ymarferydd meddygol cofrestredig o dan drefniadau a wnaed rhwng ymarferydd meddygol cofrestredig a pherson sy’n gyfrifol am ddarparu neu redeg carchar sydd wedi ei gontractio allan (o fewn ystyr adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991([3])) yng Nghymru; neu

(ii) ymarferydd meddygol cofrestredig a gyflogir gan Wasanaeth Carchardai ei Mawrhydi yng Nghymru;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010([4]);

ystyr “partner iechyd meddwl lleol perthnasol” (“relevant local mental health partner”) yw'r partner iechyd meddwl lleol sy'n gyfrifol am ddarparu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o dan y Cynllun y cytunwyd arno o dan adran 2 o'r Mesur. Os na chytunir ar Gynllun o dan adran 2 o'r Mesur, y partner iechyd meddwl lleol perthnasol yw'r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer yr ardal awdurdod lleol o dan sylw;

mae i'r ymadrodd “partneriaid iechyd meddwl lleol” (“local mental health partners”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 1 o'r Mesur. 

Rhan 2 - Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol

Personau y caniateir i ddarparydd gofal sylfaenol eu hatgyfeirio i wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol

3.(1)(1) Yn ddarostyngedig i adran 8(1) o'r Mesur(2), caiff darparydd gofal sylfaenol atgyfeirio unrhyw berson—

(a)     sydd â'r hawl i dderbyn gwasanaethau meddygol sylfaenol, a

(b)     yr ymddengys fod angen asesiad iechyd meddwl sylfaenol arno,

i gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol.

(2) Yn unol ag adran 7(5) o'r Mesur, rhaid i’r  darparydd gofal sylfaenol, os yw'n penderfynu gwneud atgyfeiriad ar gyfer asesiad iechyd meddwl sylfaenol, wneud atgyfeiriad o’r fath i’r partner iechyd meddwl lleol ar gyfer yr ardal awdurdod lleol lle y mae’r darparydd gofal sylfaenol yn cynnal y rhan fwyaf o'i fusnes neu ei weithgareddau.

 

      Rhan 3 – Gofynion Cymhwystra ar gyfer Personau y caniateir iddynt gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol

Gofynion cymhwystra ar gyfer personau y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol

4.—(1) Mae person yn gymwys i gyflawni swyddogaethau partner iechyd meddwl lleol i gynnal asesiad iechyd meddwl sylfaenol os yw'r person hwnnw—

(a)     yn bodloni un neu fwy o'r gofynion proffesiynol yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn; a

(b)     wedi dangos er boddhad y partner iechyd meddwl lleol perthnasol fod ganddo brofiad, sgiliau neu hyfforddiant priodol, neu gyfuniad priodol o brofiad, sgiliau a hyfforddiant.

(2) Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (1)(b) rhaid rhoi sylw i’r safonau mewn unrhyw Godau Ymarfer a ddyroddwyd o dan adran 44 (codau ymarfer) o'r Mesur, ac unrhyw ganllawiau a ddyroddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

 

 

 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 


               YR ATODLEN      Rheoliad 4(1)(a)

GOFYNION PROFFESIYNOL

1. Y gofynion proffesiynol yw bod rhaid i berson fod—

(a)     yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru neu'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol;

(b)     yn nyrs lefel gyntaf neu'n nyrs ail lefel, a gofrestrwyd yn Is-Ran 1 neu yn Is-Ran 2 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(1), gan gynnwys cofnod sy'n dynodi mai nyrsio iechyd meddwl neu nyrsio anableddau dysgu yw ei maes ymarfer;

(c)     yn therapydd galwedigaethol a gofrestrwyd yn Rhan 6 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(2);

(d)     yn seicolegydd ymarferol a gofrestrwyd yn Rhan 14 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001; neu

(e)     yn ymarferydd meddygol cofrestredig.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

_______________________________________

([1])                 O.S. 2002/253.

(2)                 O.S. 2002/254.



([1])           2010 mccc 7.

([2]) 2006 p.42.

([3]) 1991 p.53.

([4])             2010 mccc 7.

(2)             Yn unol ag adran 7(1)(a) ni chaniateir i ddarparydd gofal

sylfaenol atgyfeirio unigolyn sy'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau a geir yn adran 8(1) o'r Mesur. Mae adran 8(1) yn gymwys i unigolion sy'n agored i gael eu cadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983; unigolyn sy'n ddarostyngedig i warcheidiaeth o dan y Ddeddf honno; unigolyn sy'n glaf cymunedol o fewn ystyr “community patient” yn y Ddeddf honno ac unigolyn sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.